12/07/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ailagor cyfleusterau hamdden yng Nghaerdydd

BYDD Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ail-agor ddydd Llun (Mai 3). Bydd Ysgol Farchogaeth Caerdydd a Chanolfan Hamdden Trem y Môr a weithredir gan y cyngor yn ailagor o ddydd Mawrth (Mai 4) wrth i gyfyngiadau Coronafeirws gael eu llacio.

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd – mae’r holl weithgareddau (gan gynnwys Parcio a Chwarae a Sesiynau Padlfyrddio cymdeithasol) ar gael i’w trefnu ymlaen llaw ar ar-lein drwy https://www.dgrhc.com/ lle gallwch weld pa sesiynau sydd ar gael yn fyw a chael rheolaeth lawn o’r amser a’r dyddiadau o’ch dewis.  Os oes angen i chi drafod trefniant (neu os oes gennych daleb rhodd i’w gwario, e-bostiwch: info@ciww.com

Canolfan Hamdden Trem y Môr – mae’n bosib gwneud trefniadau ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith a slotiau campfa awr o hyd yn Nhrem y Môr ddim mwy na 7 diwrnod ymlaen llaw drwy ffonio 02920 378161. Mwy o wybodaeth yn https://www.cf11fitness.co.uk/cy/

Ysgol Farchogaeth Caerdydd – o 4 Mai bydd yr Ysgol Farchogaeth yn cynnig gwersi preifat hanner  awr o hyd a reidiau ar ferlod. Rhaid trefnu a thalu am bob gwers ymlaen llaw drwy ffonio 02920 383908.

Mae Canolfannau Hamdden a weithredir gan fentrau cymdeithasol dielw GLL/Better Caerdydd bellach ar agor ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd awyr agored. Mae gweithgareddau dan do gan gynnwys nofio, badminton, sboncen, dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau campfa, yn ailgychwyn o Mai 3. Rhaid trefnu’r holl weithgareddau ymlaen llaw. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.better.org.uk/leisure-centre/cardiff/news/re-opening-of-leisure-facilities-in-cardiff

Bydd gan yr holl gyfleusterau a weithredir gan y cyngor a GLL/Better Caerdydd fesurau diogelwch Covid ar waith. I gael manylion llawn, holwch y cyfleusterau unigol cyn ymweld â nhw.

%d bloggers like this: