05/01/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Annog mwy o glybiau gymryd rheolaeth dros gyfleusterau chwaraeon

Mae mwy o glybiau a grwpiau chwaraeon yn cael eu hannog i gymryd y cyfrifoldeb o redeg pafiliynau, meysydd a chaeau chwarae ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae sefydliadau’n cymryd cyfrifoldeb i hunan-reoli cyfleusterau, ac yn helpu i’w diogelu nhw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae nifer o glybiau, cynghorau tref a chymunedol lleol eisoes wedi mynegi diddordeb yn CAT, gyda chytundebau ar gyfnodau datblygu gwahanol.

Bryncethin RFC oedd y clwb chwaraeon cyntaf i gwblhau bargen CAT gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2018, gan gymryd yr awenau dros eu cae a phafiliwn chwarae gan yr awdurdod lleol.

Yn ogystal â chytuno ar brydles 35 mlynedd, mae’r clwb rygbi hefyd wedi sicrhau mwy na £500,000 o gyllid gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys £165,125 gan y cyngor i drawsnewid eu pafiliwn adfeiliedig yn ganolfan gymunedol fodern, er mwyn i Fryncethin gyfan ei mwynhau.

Ym mis Rhagfyr 2020, arwyddodd Chwaraeon Rest Bay, sy’n cynrychioli Clwb Pêl-droed Porthcawl a Porthcawl United, brydles bum mlynedd ar gyfer y caeau chwarae a’r pafiliwn yn Rest Bay. Roedd y clybiau wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor am fwy na thair blynedd, wedi sefydlu gwarant cwmni cyfyngedig, a datblygu cynlluniau uchelgeisiol i ehangu ac adnewyddu’r pafiliwn.

Dosbarthodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn fwy na £45,000 i’r cwmni at gostau ailddatblygu’r pafiliwn, a £10,000 pellach ar gyfer offer cynnal a chadw’r cae, o Gronfa CAT sydd werth £1m. Bellach, mae gwaith wedi cychwyn i wella ac ehangu’r pafiliwn.

Y mis diwethaf, cymeradwyodd gabinet y cyngor achos busnes gan Glwb Athletau Cefn Cribwr i gymryd yr awenau dros reoli’r pafiliwn a llain fowlio, dau gae rygbi a chyrtiau tennis yng Nghaeau Chwarae Cae Gof.

Mae’r clwb hefyd wedi derbyn cyllid o bron i £160,000 gan gronfeydd CAT a Rheoli Newid y cyngor, er mwyn ehangu’r pafiliwn bowlio a gwella’r cyfleusterau newid rygbi i safon Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal â gwella draeniau’r caeau a phrynu cyfarpar cynnal a chadw.

Mae Clwb Pêl-droed Cefn Cribwr wedi mynegi diddordeb mewn cwblhau prydles ar wahân ar gyfer y prif bafiliwn a dau gae pêl-droed, ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt.

Mae gan y fwrdeistref sirol tua 60 o glybiau a 530 o dimau sy’n defnyddio pafiliynau a chaeau chwarae a gynhelir gan Adran Mannau Gwyrdd y cyngor. Hyd heddiw, mae’r holl gyfleusterau hyn wedi mynegi diddordeb i hunan-reoli, o glybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymunedol, gyda 55 o geisiadau CAT yn cael eu prosesu ar gyfnodau gwahanol ar hyn o bryd.

Mae cynghorau tref a chymunedol hefyd yn cymryd rhan weithredol yn y Rhaglen CAT gyda phafiliynau a chaeau chwarae’n cael eu trosglwyddo, sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd gyda Chyngor Cymunedol Coety Uchaf, Corneli, Cyngor Cymuned Trelales, Cyngor Cymuned Llangynwyd Isaf, Cyngor Cymuned Castellnewydd Uchaf, a Chyngor Tref Porthcawl.

Cymeradwywyd cyfanswm o 30 mynegiant o ddiddordeb gydag achosion busnes yn cael eu datblygu, derbyniwyd 10 mynegiant anffurfiol o ddiddordeb gyda thrafodaethau’n parhau ac mae 12 trosglwyddiad wedi’u cymeradwyo gyda phenawdau’r telerau neu brydlesi yn cael eu cwblhau – mae tri eisoes wedi’u cwblhau – Caeau Chwarae Bryncethin (Bryncethin RFC); Pafiliwn Pencoed (Cyngor Tref Pencoed); a Chaeau Chwarae Rest Bay (Chwareon Rest Bay).

Mae Cyngor Tref Pencoed wedi gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor i adnewyddu’r pafiliwn y Safle Adfywio Pencoed, oedd ar gau o ganlyniad i Storm Emma fis Mawrth 2018, ac fe ail-agorodd yn 2020, ar ôl buddsoddi mwy na £120,000 i ddiweddaru cyfleusterau.

Mae Cyngor Tref Pencoed hefyd mewn trafodaethau i gymryd y cyfrifoldeb dros waith cynnal a chadw dyddiol y caeau rygbi a phêl-droed ar y safle.

Yn ogystal, mae 10 clwb bowlio wedi cymryd drosodd y gwaith o gynnal a chadw eu lawntiau bowlio o ddydd i ddydd naill ai o dan brydles neu denantiaeth gwirfoddol (tra bod prydles yn cael ei chwblhau).

Mae adolygiadau strategol o barciau cyhoeddus mwyaf y cyngor yn Newbridge Fields, Parc Llesiant Maesteg ac Aberfields, a elwir yn ‘Planka’, hefyd yn cael eu symud ymlaen i lywio penderfyniadau polisi a buddsoddi yn y dyfodol.

“Mae cyfarfodydd wedi cychwyn gyda rhanddeiliaid allweddol megis y cynghorau tref a chymunedol lleol, ac mae cyswllt yn cael ei wneud gyda’r clybiau chwaraeon sy’n defnyddio’r cyfleusterau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau:

“Mae’n wych bod cymaint o sefydliadau yn gweithio gyda’r cyngor i wella ac adfer y cyfleusterau hyn ar gyfer eu cymunedau.

“Mae trosglwyddo asedau’n caniatáu clybiau i wneud gwelliannau i bafiliynau a chaeau, tra’n helpu’r cyngor i sicrhau bod chwaraeon ar lawr gwlad yn gallu parhau i ffynnu yn ein cymunedau.

“Mae hefyd wedi ein caniatáu ni i fuddsoddi mwy yn ein cyfleusterau chwaraeon drwy ddarparu cymorth ariannol i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gwblhau trosglwyddiadau. Rydym eisiau helpu clybiau a chynghorau tref a chymunedol i reoli a gwella cyfleusterau chwaraeon, a sicrhau eu bod nhw’n gynaliadwy yn y tymor hir.

“Ers cyflwyno’r polisi, mae’r ymateb gan glybiau chwaraeon yn y fwrdeistref sirol wedi bod yn rhagorol, gyda diddordeb ac awydd clir i weithio gyda’r cyngor. Diolch mawr i’r timau hynny sydd wedi cysylltu a gweithio gyda ni i baratoi cynlluniau.

“Rydym angen mwy o grwpiau a sefydliadau i ddangos diddordeb a gweithio gyda ni i ddatblygu CAT, er mwyn cadw cyfleusterau ar agor a sicrhau eu bod nhw ar gael. Byddwn yn annog unrhyw glybiau neu sefydliadau sydd â diddordeb i gysylltu â ni – mae gennym staff yn barod i gynorthwyo.

“Er bod coronafeirws wedi effeithio ar y broses, mae’n parhau, ac rydym yn parhau i weithio gyda chlybiau a chynghorau tref a chymunedol drwy gydol y pandemig.”

%d bloggers like this: