04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Merthyr cynnal gweithgareddau ar lein Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

CAIFF pobl ifanc Merthyr Tudful eu hannog i fynd ar-lein heno ’ma i weld sesiwn fyw o Gwestiynau Cyffredin a fydd yn dweud y cyfan sydd angen iddynt ei wybod am y cyfleoedd mae prentisiaethau yn eu cynnig.

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (Chwefror 8-14), Mae Anelu’n Uchel Merthyr Tudful, Tydfil Training a Choleg Merthyr Tudful yn cynnal sesiwn Cwestiynau Cyffredin i helpu’r rhai sy’n gadael ysgolion a cholegau gymryd y cam cyntaf tuag at ddatblygu sgiliau yn y gwaith.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r Rhaglen Brentisiaeth Anelu’n Uchel a Rennir a noddir gan Lywodraeth Cymru wedi anfon mwy na 30 o bobl ifanc i leoliadau dan ofal cyflogwyr mewn cwmnïau wrth iddyn nhw astudio yng Ngholeg Merthyr Tudful, Coleg Y Cymoedd a Choleg Caerdydd a’r Fro.

Prosiect bartneriaeth yw Anelu’n Uchel ble mae prentisiaid yn cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, eu hyfforddi gan y colegau a Tydfil Training a’u lleoli â chwmni lleol am ddwy neu dair blynedd, yn dibynnu ar hyd eu cwrs prentisiaeth.

Maen nhw’n cael eu hannog i fynd o un cyflogwr i’r llall yn y sector uwch weithgynhyrchu a pheirianneg i lenwi unrhyw fylchau mewn perthynas â’u llwybr dysgu ac ennill cyflog sy’n uwch nag isafswm cyflog prentisiaeth. Ceir hefyd anogaeth ariannol i gyflogwyr gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae gan Anelu’n Uchel Merthyr Tudful 30 o brentisiaid ar y rhaglen ar hyn o bryd. Cafodd 10 ohonynt eu recriwtio yn ystod y pandemig. Maen nhw i gyd yn astudio Lefel 3 neu uwch mewn prentisiaethau sy’n berthnasol i STEM oddi fewn i uwch weithgynhyrchu a pheirianneg, ac mae dau fyfyriwr yn gweithio tuag at HND.

Rhaid i ymgeiswyr Anelu’n Uchel fod rhwng 16 a 24 oed; meddu ar bump TGAU graddau A-C yn cynnwys pynciau STEM a llwyddo mewn Lefel A mewn pwnc STEM – yn enwedig mathemateg a gwyddoniaeth; ac un ai’n dechrau VRQ neu wedi cwblhau Rhaglen Peirianneg Uwch neu Lwybrau at Brentisiaeth, neu gwblhau VRQ yn y coleg.

Cwestiynau Cyffredin heno ’ma o 5-6 pm. Mae manylion ymuno fan hyn: http://ow.ly/7tQI50DshX2

Os ydych chi’n rhedeg cwmni gweithgynhyrchu a / neu beirianyddol ac am ddysgu rhagor am y rhaglen, cysylltwch â Jared Green drwy e-bost jared.green@merthyr.gov.uk #WythnosGenedlaetholPrentisiaethau

%d bloggers like this: