MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn atgoffa unrhyw un sy’n
gymwys ac sydd heb ddod ymlaen ar gyfer eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i dderbyn eu cynnig erbyn y dyddiad cau, sef dydd Iau, 30
Mehefin 2022.
Mae dyddiad cau o 30 Mehefin wedi’i gyflwyno i sicrhau y bydd gan bawb
sy’n gymwys ar gyfer dos atgyfnerthu’r gwanwyn ddigon o egwyl rhwng hyn
a sesiwn atgyfnerthu hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Diolch i ymdrechion parhaus ein canolfannau brechu torfol, imiwnyddion cymunedol a phtactisau meddygon teulu, mae bron i 40,000 o bobl wedi cael eu pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn.
“Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael mynediad at eu
brechlyn ac felly bydd sesiynau galw heibio yn parhau yn ein canolfannau
brechu torfol yn Aberystwyth, Cwm-Cou, Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd,
Caerfyrddin a Llanelli i unrhyw un 12 oed a hŷn.
“Gellir trefnu apwyntiadau a chymorth trafnidiaeth* ar gyfer y rhai nad
ydynt yn wirioneddol yn gallu cael mynediad i ganolfan frechu torfol
mewn unrhyw fodd arall trwy ffonio 0300 303 8322 neu anfon e-bost at
COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk.”
Os yw rhywun sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn wedi
cael haint Covid yn ddiweddar, bydd angen iddynt aros 28 diwrnod o’r
dyddiad y cawsant brawf positif cyn y gellir eu brechu. Byddant yn dal i
allu cael eu brechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o’r ymgyrch hon os bydd
yn rhaid iddynt ohirio eu hapwyntiad.
Nid yw ychwaith yn rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos sylfaenol neu
ddos atgyfnerthu gael ei frechu. Mae sesiynau galw heibio ar gyfer pawb
12 oed a hŷn. Bydd plant 5 i 11 oed yn cael eu brechu mewn clinigau
penodol ac felly mae’n rhaid iddynt drefnu apwyntiad.
Ar gyfer amseroedd galw heibio canolfan frechu torfol (ar gyfer pobl 12
oed a hŷn), ewch i hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination [2] neu ffoniwch
0300 303 8322. I drefnu amser apwyntiad, ffoniwch 0300 303 8322 neu
e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Council’s Learning and Development Team win Inspire Award