09/08/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arddegwyr cael eu hannog i fod yn greadigol gan fod barddoniaeth yn helpu lles

MAE menter newydd yn annog arddegwyr ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i fod yn greadigol a deall effaith y pandemig yn well.

Mae’r gystadleuaeth Lleisiau Llenyddol yn gwahodd y rheini rhwng 13 ac 16 oed i gyflwyno’u cerddi eu hunain yn seiliedig ar eu myfyrdodau ar 2020.

Mae’n cael ei threfnu gan yr elusen iechyd meddwl Platfform a gwasanaeth Dylan Thomas Cyngor Abertawe.

Gellir cyflwyno cynigion tan ddiwedd y dydd ar 14 Chwefror. Dylid e-bostio’r cerddi i youngpeople@platfform.org.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

“Dyma gyfle gwych i bobl ifanc gael dweud eu dweud.

“Mae’n fenter gadarnhaol iddynt gymryd rhan ynddi ac rwy’n annog pobl ifanc i fod yn greadigol.

“Mae’n enghraifft arall sy’n dangos bod y trydydd sector a’r cyngor yma i Abertawe.”

 

%d bloggers like this: