04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bwriad i sefydlu Awdurdod Goruchwylio ar ddiogelwch tomenni glo i ‘sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi’

MAE Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno cyfraith newydd i reoli gwaddol canrifoedd o fwyngloddio yng Nghymru. Bydd y cynlluniau hynny’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch cymunedau.

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdod goruchwylio’n cael ei greu i oruchwylio’r drefn newydd, a fydd yn sicrhau bod trefniadau rheoli ar waith ar gyfer y tomenni categori uchaf.

Bydd yr awdurdod hwnnw hefyd yn creu ac yn cadw cofrestr asedau genedlaethol newydd.

Aed ati i lunio’r cynigion llawn, sydd hefyd yn cynnwys ffordd genedlaethol newydd o gategoreiddio tomenni, yn sgil adroddiad diweddar gan Gomisiwn y Gyfraith a ddarparodd dystiolaeth werthfawr a’n helpodd i lunio’r Papur Gwyn a ryddhawyd heddiw.

Mae ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer tomenni glo, sydd i’w gweld yn y Papur Gwyn, wedi agor a bydd yn para 12 wythnos.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae gan Gymru hanes balch o gloddio am lo, ond dw i’n deall pam mae’r bobl sy’n byw yng nghysgod tomenni glo yn teimlo’n nerfus. Oherwydd bod mwy a mwy o risg yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae’n amlwg nad yw’r gyfraith bresennol ar ddiogelwch tomenni glo yn addas i’r diben erbyn hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sicrhau bod pobl yn y cymunedau hynny a chwaraeodd ran hanfodol yn y chwyldro diwydiannol yn gallu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Y bobl hynny sy’n cael blaenoriaeth yn ein cynigion ar gyfer cyfundrefn gwbl newydd, ond rydyn ni am sicrhau ar yr un pryd ein bod yn diogelu seilwaith hanfodol ac yn parhau i ofalu am ein hamgylchedd.”

Bydd ffordd genedlaethol newydd o gategoreiddio tomenni yn cael ei arwain gan yr awdurdod goruchwylio newydd. Bydd yn trefnu asesiadau perygl a fydd wedi’u teilwra ar gyfer pob safle er mwyn asesu’r bygythiadau a allai fod yn gysylltiedig â thomen, ac yn mynd ati wedyn i gytuno ar gynllun rheoli.

Yr awdurdod goruchwylio newydd  fyddai’n sicrhau bod trefniadau rheoli ar waith ar gyfer y tomenni categori uchaf, a byddai’n cyflwyno cytundebau cynnal a chadw ar gyfer tomenni ar safleoedd categori is.

Mae’n hollbwysig hefyd ein bod yn mynd i’r afael â’r ffaith nad oes pwerau gorfodi yn y ddeddfwriaeth bresennol. Byddai’r camau gorfodi’n cynnwys caniatáu hawliau mynediad ar gyfer archwiliadau a gwaith cynnal a chadw neu waith adfer, a byddai sancsiynau sifil pe na bai’r perchenogion yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd.

 

%d bloggers like this: