NID oes neb yn caru cŵn yn fwy na’r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd, felly pan glywon nhw fod pobl yn cael eu cynghori mewn rhai grwpiau cyfryngau cymdeithasol, i anwybyddu eu rhwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu â nhw os yn dod o hyd i gŵn strae, am resymau anwir, roeddent am unioni’r camargraff yn syth.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:
“Mae’n siomedig bod lleiafrif o bobl yn dewis lledu gwybodaeth ffug am Gartref Cŵn Caerdydd ar adeg pan, gyda chymorth ymgyrch codi arian dan arweiniad Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Gymry a sefydlu elusen newydd y Gwesty Achub, rydym yn awyddus i adnewyddu’r cytiau cŵn a darparu gofal o safon uwch fyth i gŵn Caerdydd.
“Yn anffodus, mewn lleiafrif bach iawn o achosion, does dim dewis ond rhoi ci rydyn ni’n gofalu amdano i gysgu. Dim ond ar gyngor meddygol milfeddyg y gwneir hyn ar unrhyw adeg, os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny oherwydd ei fod yn frîd gwaharddedig, neu os yw ci, ar ôl gwaith helaeth gydag therapydd ymddygiad cŵn, yn dal yn rhy ymosodol fel y byddai’n beryglus ei ail-gartrefu.
“I fod yn glir – nid yw cŵn yn cael eu rhoi i gysgu yng Nghartref Cŵn Caerdydd fel mater o drefn. Mae cŵn yn lletya yn y cartref sydd wedi bod yno ers misoedd lawer a byddant yn aros yno, yn derbyn gofal da tan bo’r tîm yn gallu canfod cartref am byth iddynt.”
Yn 2019/20, daeth 695 o gŵn strae drwy ddrysau Cartref Cŵn Caerdydd. Cafodd 359 ohonynt (51.6%) eu dychwelyd i’w perchennog. 329 (47.3%) eu hail gartrefu a dim ond 7 (1%) a gafodd eu rhoi i gysgu, gyda 3 o’r rhain oherwydd cyngor meddygol, a 4 oherwydd problemau ymddygiad.
Os ydych chi’n dod o hyd i gi strae, dyma’r hyn ddylid ei wneud:
Cysylltwch â Chartref Cŵn Caerdydd ar 029 2071 1243. Os dewch o hyd i gi sydd allan ar ei ben ei hun, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i gysylltu â’r awdurdod lleol. Ar gyfer ardal Caerdydd, Cartref Cŵn Caerdydd yw hwnnw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses gywir yn cael ei dilyn a bod y ci yn cael ei ddychwelyd i’w wir berchennog;
Byddwn yn trefnu i Warden ddod i gasglu’r ci a’i sganio am sglodyn micro er mwyn ei ddychwelyd yn ôl i’w berchennog. Os nad oes sglodyn i’w gael, bydd y ci yn mynd i Gartref Cŵn Caerdydd lle bydd yn derbyn gofal nes bydd y perchennog yn dod i’w gasglu. Fel arall, gallwch fynd â chi strae yn uniongyrchol i’r Cartref Cŵn ar unrhyw adeg, 24/7 – ffoniwch ymlaen llaw, os ydych yn gwneud hyn;
Os nad oes unrhyw un yn hawlio’r ci, ar ôl 7 diwrnod bydd yn dod yn eiddo cyfreithiol Cartref Cŵn Caerdydd a bydd y broses o ddod o hyd i gartref newydd am byth i’r ci, yn dechrau.
Dyma’r hyn na ddylid ei wneud:
Ni ddylech gadw’r ci, na rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy’n rhoi cymaint o wybodaeth i bobl fel y gallai unrhyw un honni mai nhw yw perchennog y ci. Mae ein staff wedi’u hyfforddi ac yn brofiadol wrth ddelio â holl gymhlethdodau perchnogaeth ar gŵn ac anghydfodau cysylltiedig. Mae’n bosibl eich bod wedi dod o hyd i gi sydd wedi’i ddwyn ac efallai y bydd gan y Cartref Cŵn wybodaeth am yr hanes a’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â chi unigol;
Peidiwch â chysylltu â Milfeddyg. Dim ond ymgynghoriadau hanfodol maen nhw’n eu gwneud ar hyn o bryd ac ni allant fynd â chŵn strae i mewn i’w sganio am sglodion micro, chwilio trwy gronfeydd data ac yna cysylltu â pherchnogion i’w hailuno â’u cŵn. Dyma ddiben Cartref Cŵn Caerdydd a’r Gwasanaeth Wardeniaid.
Am fwy o wybodaeth am Gartref Cwn Caerdydd ewch i: Croeso i Gartref Cŵn Caerdydd – Cartref Cŵn Caerdydd
Os hoffech wneud rhodd i helpu Sam Warburton a’r Gwesty’r Achub i godi arian ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i www.justgiving.com/campaign/therescuehotel
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m