04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gosod her i blant ysgol Sir Gaerfyrddin fod yn egnïol

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gosod her i blant ysgol tra byddant yn aros gartref.

Hyd yn hyn mae 70 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer Miliwn Munud Actif sy’n annog plant i gadw’n heini ac yn iach tra bo ysgolion ar gau ac ar yr un pryd ennill offer chwaraeon ar gyfer eu hysgol.

Mae’r her yn cael ei hyrwyddo gan dîm Cymunedau Actif y cyngor a bydd yn para am bedair wythnos tan fis Mawrth neu hyd nes y bydd miliwn munud wedi’u cyflawni.

Mae cyfle i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y sir ennill gwerth £500 o offer chwaraeon a gall plant ddewis eu gweithgaredd eu hunain.

Bydd gan bob ysgol darged unigol yn seiliedig ar nifer y disgyblion yn yr ysgol.

Ar ôl i ysgol gyrraedd ei tharged bydd yn cael ei chynnwys yn y raffl fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am chwaraeon:

“Mae hon yn her gyffrous iawn ac yn ffordd hwyliog o’n cadw ni’n egnïol wrth i ni ddysgu gartref yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae hefyd yn gyfle perffaith i helpu ysgolion i gael budd o offer chwaraeon ychwanegol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn egnïol gan ei bod yn ein helpu i gadw’n heini, bod yn iachach ac yn fwy hyderus. Mae’r gwersi bywyd y mae chwaraeon yn eu dysgu i blant yn llawer mwy na’r manteision corfforol.”

Os nad yw unrhyw ysgol wedi cofrestru ac yn dymuno ymuno, ewch i wefan Actif

I gael rhagor o wybodaeth am syniadau ynghylch bod yn egnïol gartref yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud a helpu eich ysgol i gyrraedd ei tharged ewch i’n sianel You Tube ar ein gwefan.

 

%d bloggers like this: