04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymraeg

MAE cleifion ar draws de-orllewin Cymru wedi cael hwb yn dilyn gosod sganiwr CT newydd sbon gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Mae'r sganiwr, sydd wedi'i ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, yn ymgorffori'r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn gwella profiad y claf yn sylweddol gyda gwell datrysiad ac amseroedd sgan cyflymach. Bellach gellir perfformio sganiau o'r garddwrn a phenelin gyda'r claf yn eistedd mewn cadair, a gellir perfformio'r ddelwedd mewn 4D. Gellir cael sganiau cardiaidd mewn un curiad calon a bydd yn galluogi i Ysbyty Glangwili i ddarparu gwasanaeth CT Cardiaidd i'n cleifion ac mae'r...

MAE fferm ddefaid yng Nghymru wedi gostwng ei chostau am ddeunydd dan y defaid o 75%, a lleihau faint o gloffni y mae’r mamogiaid yn ei ddioddef ers newid o wellt i lawr delltog. Ôl-osodwyd llawr delltog plastig mewn sied yn Hendre Ifan Goch, safle arddangos Cyswllt Ffermio ym Melin Ifan Ddu, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ar gost o £18,000 (heb y llafur a’r peiriannau). Mae’r teulu Edwards - Russell ac Eira, a’u mab, Rhys - yn cadw diadell o 530 o famogiaid Miwl Cymreig yn bennaf a 180 o ŵyn benyw. Fe...