04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Chweched Wythnos Wyddoniaeth wych yn Ysgol Gynradd Fochriw

YN ddiweddar, nododd Ysgol Gynradd Fochriw chweched digwyddiad blynyddol Wythnos Wyddoniaeth Prydain, sef dathliad o bopeth sy’n wyddoniaeth.

Cynlluniwyd yr wythnos yn strategol gyda dyluniad y cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddysgwyr uchelgeisiol, galluog gyda hwyl ac arloesedd wrth wraidd y ddarpariaeth. Roedd angen ei hystyried yn ofalus gyda phlant y Cyfnod Sylfaen a phlant yn y ‘Hyb’ ar y safle, a gweddill y plant yn gweithio gartref. Gan dderbyn yr her, cynhaliodd yr ysgol wledd anhygoel o ‘Scientific Superness’ fel na chollodd y plant y digwyddiad blynyddol hwn.

Dechreuodd Wythnos Wyddoniaeth Prydain gyda sioe wyddoniaeth gan ‘Scientific Sue’, sef profiad rhithwir o archfarchnad wyddoniaeth. Yn ystod wythnos gyffrous o weithgareddau roedd datrys problemau yn ymarferol, cymryd rhan yng Ngwobrau Crest, taith rithwir i Waith Trin Dŵr a chyfoeth o ymwelwyr rhithwir. Ymhlith yr ymwelwyr a ysbrydolodd y gwyddonwyr ifanc yn Ysgol Gynradd Fochriw roedd meddyg, peiriannydd Xbox, arbenigwr seiberddiogelwch ac ymchwilydd meddygol sydd ar flaen y gad o ran ymchwil i frechlyn coronafeirws!

Dywedodd Miss Johns, Athro Arweiniol Gwyddoniaeth yn Ysgol Gynradd Fochriw:

“Mwynhaodd y plant yr heriau a ddaeth yn sgil Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Mae wedi bod ychydig yn wahanol eleni ond, serch hynny, fe’i hystyriwyd yn llwyddiant mawr. Mae’r ffocws ar gwestiynu a datrys problemau yn sicrhau bod ein gwyddonwyr ifanc yn cael eu meithrin o oedran ifanc.”

%d bloggers like this: