04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Contractwr Llys Cadwyn Pontypridd cael ei wobrwyo am y prosiect

MAE Willmott Dixon, sef contractwr y Cyngor, a charfan ehangach y prosiect, wedi ennill dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd 2021 am gyflawni datblygiad Llys Cadwyn, gan gipio gwobr ‘Enillydd yr Enillwyr’ ar draws pob categori.

Cafodd datblygiad Llys Cadwyn ym Mhontypridd gwerth £38 miliwn ei gwblhau ym mis Hydref 2020 ac mae bellach yn barod i ailagor pan fydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu hynny. Bellach, saif tri adeilad o’r radd flaenaf ar safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf, a oedd wedi bod yn segur ers blynyddoedd lawer.

Bydd Rhif 1 Llys Cadwyn (sydd fwyaf agos at Stryd y Bont) yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor ac yn cynnwys llyfrgell ar gyfer yr 21ain Ganrif, man cyswllt ar gyfer cwsmeriaid y Cyngor, a chanolfan ffitrwydd/hamdden o’r radd flaenaf. Mae Rhif 2 Llys Cadwyn (yr adeilad yn y canol) yn cynnwys gofod swyddfa Gradd A ac uned bwyd/diod.

Rhif 3 Llys Cadwyn (ger Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy) yw cartref newydd Trafnidiaeth Cymru (gweithredwr Metro De Cymru) ac mae ‘Bradley’s Coffee’ wedi agor yn un o’r ddwy uned bwyd/diod yn yr adeilad hefyd. Mae Loungers Ltd wedi llofnodi prydles i Gatto Lounge agor yn yr uned arall. Mae’r ardaloedd yn y tri adeilad ac o’u cwmpas ar agor i’r cyhoedd, gan gynnwys rhodfa ar hyd yr afon.

Yn cystadlu yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd 2021 roedd y contractwr Willmott Dixon, Darnton B3, Hydrock a Rhomco am gwblhau’r datblygiad blaenllaw, a chynhaliwyd y seremoni wobrwyo’n rhithwir ddydd Gwener, 26 Mawrth, fel dathliad o’r sector eiddo lleol.

Wrth ennill y Wobr Trawsnewid – disgrifiwyd Llys Cadwyn gan y beirniaid fel a ganlyn: “Trawsnewidiad celfydd o ganolfan siopa segur i dri adeilad a fydd yn darparu cannoedd o swyddi… gyda golygfeydd godidog o’r afon. Dirywiad wedi’i adfer yn ardal drawiadol gyda phwrpas newydd.”

Aeth y datblygiad ymlaen i ennill y wobr ‘Enillydd yr Enillwyr’ ar draws pob categori, ac wrth gyflawni hyn, dywedodd y beirniaid: “Mae’r datblygiad wedi trawsnewid canol Pontypridd yn gyfan gwbl ac wedi bod yn gatalydd cymdeithasol ar gyfer newid cadarnhaol, gan ddarparu dros 3,900 wythnos o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ac enillion gwerth cymdeithasol o dros £8 miliwn ar y buddsoddiad. Dosbarth meistr o ran defnyddio eiddo.”

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: 

“Llongyfarchiadau i Willmott Dixon am ei lwyddiant yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd – ar ôl cyflwyno gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Llys Cadwyn i adfywio safle segur yng nghanol y dref a’i droi’n ddatblygiad porth y gall pawb ym Mhontypridd fod yn falch ohono. Mae’r adeiladau wedi’u cwblhau ac maen nhw’n barod i gael eu defnyddio unwaith y bydd pandemig COVID-19 yn caniatáu hynny – ac maen nhw eisoes wedi dod â Thrafnidiaeth Cymru a Bradley’s Coffee i Bontypridd, gyda Gatto Lounge i ddilyn.

“Serch hynny, roedd Llys Cadwyn yn llawer mwy na’r tri adeilad yn unig, ac wrth ddyfarnu’r wobr ‘Enillydd yr Enillwyr’ i Willmott Dixon, gwnaeth y beirniaid sylwadau ar werth cymdeithasol rhagorol y prosiect. Cyflwynwyd bron i 4,000 wythnos o recriwtio a hyfforddi a chymerodd 4,200 o ddisgyblion ran. Cafwyd mwy na 56% o’r llafur a 63% o wariant y prosiect o fewn 20 milltir, a chodwyd £49,666 gan Wilmott Dixon ar gyfer elusennau lleol. Bu’r contractwr hefyd yn cydlynu prosiect i adfywio’r pafiliwn bowls ym Mharc Coffa Ynysangharad ac roedd ei gadwyn gyflenwi leol wedi helpu i wella gardd synhwyraidd Ysgol Tŷ Coch.”

Dywedodd Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Willmott Dixon yng Nghymru a Gorllewin Lloegr:

‘Mae hon yn ganmoliaeth wych i’r tîm cyfan sy’n rhan o’r prosiect. Mewn gwirionedd, roedd yn ymdrech gydweithredol i ddarparu’r tri adeilad i bobl Pontypridd, gan hefyd sicrhau buddion cymdeithasol ac economaidd ychwanegol i’r ardal.

“Mae’r wobr hefyd yn cydnabod gweledigaeth ac uchelgais Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer y prosiect, gan sicrhau llwyddiant y prosiect beiddgar yma. Gobeithiwn mai hon yw’r gyntaf o lawer o wobrau am y datblygiad gwych yma; prosiect y mae Willmott Dixon yn falch iawn ei fod wedi chwarae rhan ynddo.”

%d bloggers like this: