04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trwsio, ailddefnyddio ac ailgylchu yng nghanolfan lles cymunedol newydd Cil-y-coed

MAE trigolion Cil-y-coed yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn helpu i lunio a datblygu syniadau ar gyfer canolfan lles cymunedol newydd, y dechreuodd y gwaith arni fis diwethaf.

Bydd y ganolfan newydd – y disgwylir iddi fod ar agor yr haf hwn – yn trawsnewid Hyb Cymunedol ‘Siop Un Stop’ bresennol Cyngor Sir Fynwy yn Woodstock Way yn lle o’r radd flaenaf ar gyfer cydweithredu cymunedol o amgylch ailgylchu, celf, gwneud pethau a lles.

Bydd yn cael ei redeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned, gan gynnig ystod eang o gyfleoedd i wirfoddoli ac i gyfnewid sgiliau a thalentau.  Bydd y ganolfan hefyd yn rhoi cyfle i breswylwyr gwrdd â sefydliadau lles sy’n darparu gwasanaethau cymorth, yn ogystal â darparu lle i ddal i fyny dros goffi a chael mynediad at ystod eang o weithgareddau.

Dyfarnwyd cyllid cyfalaf i Gyngor Sir Fynwy ar gyfer y ganolfan newydd drwy Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, sy’n buddsoddi mewn prosiectau sy’n lleihau gwastraff, yn annog ailgylchu ac yn cefnogi menter werdd.  Bydd mentrau sy’n hyrwyddo’r neges lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu wrth galon canolfan Cil-y-coed, a fydd yn cynnwys Llyfrgell o Bethau, Caffi Trwsio, Oergell Gymunedol a Gofod Gwneuthurwyr.

Llyfrgell o Bethau:

Gan weithio mewn partneriaeth â Benthyg Cymru, a’i neges yw ‘Benthyg nid Prynu’, bydd y Llyfrgell o Bethau yn caniatáu i breswylwyr fenthyg pethau nad oes angen iddynt berchen arnynt, rhoi pethau y maent yn berchen arnynt ond nad oes eu hangen arnynt, a chwrdd â phobl i rannu gwybodaeth a sgiliau gyda’r gymuned. Bydd y llyfrgell yn cynnwys teganau a gemau, offer garddio, offer pŵer, offer adloniant, hanfodion cegin ac offer gwersylla.

Caffi Trwsio:

Ar y cyd â Chaffi Trwsio Cymru, bydd Caffi Trwsio Cil-y-coed yn cael ei gynnal yn rheolaidd ym mhrif ardal y gweithgaredd yn y ganolfan, a bydd yn fan lle gall y gymuned leol ddod â’u heitemau cartref sydd wedi torri i’w hatgyweirio gan wirfoddolwyr am ddim. Mae’r mathau o bethau y gellir eu trwsio’n cynnwys dillad, offer trydanol cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn a beiciau.

Oergell Gymunedol:

Mae’r prosiect, mewn partneriaeth â Gymnasteg Gwy, wedi’i gynllunio i leihau gwastraff bwyd drwy roi i ffwrdd bwyd am ddim sydd wedi mynd heibio i’w dyddiad “gwerthwch erbyn”, o archfarchnadoedd ac allfeydd bwyd eraill, ond sydd dal yn ffres ac o fewn ei dyddiad “defnyddiwch erbyn”.

Gofod Gwneuthurwyr:

Wedi’i leoli mewn cynhwysydd llongau clad pren, mae Gofod y Gwneuthurwyr – ar y cyd â’r sefydliad elusennol Men’s Shed a’r sefydliad ailgylchu Precious Plastics – yn fan lle gall pobl ddod at ei gilydd i wneud amrywiaeth o gynhyrchion newydd o bren, plastig wedi’i ailgylchu ac amrywiaeth o ddeunyddiau eraill.  Bydd yn gyfle i ddysgu sgiliau gwneud newydd, rhannu doniau a chael ysbrydoliaeth drwy greu cymuned o wneuthurwyr.  Bydd y gofod yn cynnwys gweithdy gwaith coed llawn offer a bydd hefyd yn cynnal torrwr laser o’r radd flaenaf a pheiriannau ailgylchu plastig sy’n gronynnu plastig untro ac yn ei droi’n ddeunydd y gellir ei siapio’n gynhyrchion newydd.

Bydd preswylwyr hŷn a’r rhai sydd ag anawsterau symudedd hefyd yn gallu mwynhau teithiau treic yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ffordd wych o fynd allan o’r tŷ ac archwilio’r ardal. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chanolfan Gymunedol Bridges a sefydliad Cycling Without Age. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Marianne Piper yn y Prosiect Gwirfoddoli er Lles (marianne.piper@bridgescentre.org.uk neu drwy ffonio 07980 941946).

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y cyngor yn cynnal cystadleuaeth i enwi’r ganolfan newydd ac rydym yn awyddus i glywed syniadau trigolion am ba bethau eraill yr hoffent eu gweld yn y ganolfan. Os hoffech gymryd rhan cysylltwch â Fred Weston (fredweston@monmouthshire.gov.uk; neu 07890 559 566). Dylid anfon y dyddiad cau ar gyfer awgrymiadau ar gyfer enw’r ganolfan newydd erbyn4pm ddydd Llun 31ain Mai.

%d bloggers like this: