04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

Cyfyngiadau teithio hanfodol yn codi ar drafnidiaeth gyhoeddus

MAE Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiad sy’n golygu mai teithio hanfodol yn unig a ganiateir ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei godi o yfory ymlaen (dydd Llun, 17 Awst), gan olygu y bydd mwy o deithwyr yn gallu teithio ar drenau a bysiau.
Cafodd y neges teithio hanfodol yn unig ei chyflwyno er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol, yn ogystal â’r bobl hynny nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio.

Mae’r cyfyngiad yn cael ei godi wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws barhau i ostwng. Dyma’r diweddaraf o’r camau graddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lacio’r cyfyngiadau a osodwyd mewn ymateb i’r coronafeirws.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wneud iawn am y refeniw yr oedd yn rhwym o’i golli. Yn fwyaf diweddar, roedd hynny’n cynnwys y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos ddiwethaf am £10 miliwn i helpu’r diwydiant bysiau i ddarparu mwy o wasanaethau.

Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn parhau, er bod rhai eithriadau megis y bobl hynny nad ydynt yn gallu’u gwisgo oherwydd eu bod yn dioddef salwch corfforol neu salwch meddwl.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:

“Wrth inni barhau i fynd ati’n ofalus i lacio’r cyfyngiadau, rydyn ni’n gallu codi’r cyfyngiad teithio hanfodol yn unig a oedd yn caniatáu i’n gweithwyr allweddol deithio’n ddiogel.

“Ond gan fod y feirws yn dal ar led, mae’n hanfodol bod pobl yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd angen iddyn nhw gynllunio’u siwrneiau er mwyn osgoi cyfnodau prysur os bydd modd, a golchi neu ddiheintio eu dwylo ar ddechrau a diwedd pob taith. Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a gallai hynny olygu na fydd pobl yn cael teithio os na fyddant yn gwisgo gorchudd.”

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gadw Cymru yn ddiogel hyd yma, gan gynnwys y staff sydd wedi cadw’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

%d bloggers like this: