MAE Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi yr ymgyrch frechu fwyaf erioed Cymru rhag y ffliw. Fel rhan o’r ymgyrch hon, bydd mwy o bobl yn elwa ar y rhaglen frechu am ddim rhag y ffliw. |
Mae’r posibilrwydd y bydd COVID-19 yn cylchredeg yr un pryd â’r ffliw yn golygu bod y rhaglen frechu rhag ffliw eleni yn fwy pwysig byth. Yn ogystal ag ymestyn y rhaglen, mae’n bwysig bod yr unigolion hynny sydd yn y grwpiau sy’n gymwys i gael y brechlyn yn barod, gan gynnwys unigolion dros 65 oed, merched beichiog a phobl â chyflyrau meddygol, yn cael eu brechu yn gyntaf. Bydd cynyddu nifer y gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael y brechlyn hefyd yn flaenoriaeth allweddol y tymor hwn.
Yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd cyflenwad ychwanegol o’r brechlyn ar gael, bydd y canlynol yn cael eu cynnwys yn y rhaglen frechu rhag y ffliw eleni – Pobl sy’n rhannu cartref gydag unigolion yn y grŵp gwarchod; a hefyd Gostwng yr oedran cymhwystra o 65 oed i unigolion dros 50 oed – bydd y rhain yn cael eu brechu mewn dull graddol Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cysylltu â’r unigolion hynny sy’n gymwys. Bydd cyflenwadau ychwanegol o’r brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn, sy’n cael ei gynnig i blant, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen frechu. Cynigir y rhaglen hon i blant rhwng 2 a 3 oed a phob plentyn mewn ysgolion cynradd.
|
Local & National News for Wales
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m