YN dilyn cyfarfod â’r Trysorlys, (Gorffennaf 24) dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Llywodraeth y DU wedi “colli cyfle” i roi mwy o hyblygrwydd i Gymru er mwyn mynd i’r afael â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws. Gan ddweud dim ond cyfran yn unig o’r £1.2bn “sy’n arian gwirioneddol newydd”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r sicrwydd a ddarperir gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU neithiwr y bydd £1.2bn pellach ar gael i Gymru er mwyn ymateb i’r pandemig ond mae dros hanner y cyllid hwnnw – £675m – yn ymwneud â gwariant ar gyfarpar diogelu personol a chyllid ar gyfer pwysau’r gaeaf, a oedd eisoes wedi’i gyhoeddi. Mae hyn i gyd yn rhan o gyfran Barnett o wariant sydd wedi’i gyhoeddi neu ei gynllunio yn Lloegr.
Ond ni chytunodd y Trysorlys heddiw i gais Llywodraeth Cymru i ddefnyddio mwy o arian o Gronfa Wrth Gefn Cymru eleni – cronfa gynilo yw Cronfa Wrth Gefn Cymru y mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu ati ac yn gallu ei defnyddio i hybu ei chyllideb mewn argyfwng – a hyblygrwydd cyllidebol arall i helpu i leddfu’r pwysau ar wariant.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Croesawaf y sicrwydd y mae’r cyhoeddiad neithiwr yn ei roi – rwy’n gwybod beth allwn ni ei ddisgwyl weddill eleni i ddelio â’r coronafeirws cyn unrhyw gyhoeddiadau cyllid yn Lloegr. Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi gwrando a gweithredu ar fy ngalwadau am sicrwydd ac eglurder.
“Ond rhaid imi bwysleisio mai cyfran yn unig o hyn sy’n arian gwirioneddol newydd. Mae’n bell iawn o’r hyn y bydd ei angen ar Gymru i wrthdroi’r niwed hirdymor a achosir gan y pandemig.
“Mae’r Trysorlys hefyd wedi colli cyfle i roi inni’r hyblygrwydd cyllidebol mawr ei angen, a fyddai’n ein galluogi i reoli peth o bwysau’r coronafeirws ein hunain, o fewn ein cyllidebau ein hunain.”
More Stories
Hen feddygfa Brynhyfryd cael defnyddio yn y gymuned unwaith eto
Parcio am ddim yng nghanol tref Merthyr ystod misoedd Mai a Mehefin
Cofrestrwch ar gyfer haf o ddysgu
Cyllid i ddiogelu cartrefi Sili rhag llifogydd
Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf
Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru