09/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Gwynedd yn ystyried prynu tai i’w rhentu i bobl leol

BYDD Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried adroddiad fydd yn gofyn am ganiatâd i fenthyca £15.4 miliwn er mwyn prynu oddeutu 100 o dai er mwyn eu gosod ar rent fforddiadwy.

Bydd yr adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ar 16 Chwefror yn amlinellu’r cynllun i brynu 100 o dai o’r farchnad dros y chwe blynedd nesaf er mwyn eu rhentu ar bris fforddiadwy i bobl leol. Fe ddaw yn dilyn mabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai uchelgeisiol ym mis Rhagfyr, sydd yn cynnwys dros 30 o brosiectau i geisio taclo’r heriau ym mhob rhan o’r sector dai yng Ngwynedd.

Mae’r cynllun uchelgeisiol yn cynnwys darparu mwy o lety i bobl ddigartref, adeiladu mwy o dai cymdeithasol i’w gosod i drigolion lleol a dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Rwyf yn pwysleisio yn aml mai fy mhrif flaenoriaeth ydi sicrhau ein bod fel Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnig cartrefi i bobl Gwynedd o fewn ein cymunedau. Bydd y cynllun yma, sef prynu tai i’w gosod ar rent fforddiadwy i bobl leol, yn helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol.

“Rwyf yn hynod o gyffrous am y cyfnod nesaf yma pan fyddwn yn gwireddu cynlluniau uchelgeisiol ein Cynllun Gweithredu Tai, gyda nifer o’r rheini ar droed yn barod. Ein bwriad ydi cynyddu’r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobl er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau – rhywbeth a fyddai fel arall allan o’u cyrraedd.

“Bydd y cynllun yn golygu buddsoddiad sylweddol, ac mae’r achos fusnes yr ydym yn ei gynnig yn dangos y bydd y buddsoddiad yn cael ei ad-dalu dros gyfnod o rai blynyddoedd. Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.”

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 2,700 o bobl ar restr aros am dai yng Ngwynedd, ac mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai er mwyn cynorthwyo pobl y sir i gael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol.

Mae’r mwyafrif o’r ffynonellau ariannu ar gyfer y cynllun gweithredu tai £77 miliwn wedi eu hadnabod a’u cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ym mis Rhagfyr, gan gynnwys y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac amrywiol grantiau. Nodwyd ar y pryd y byddai ariannu’r prosiect yma yn destun adroddiad ac achos fusnes pellach er mwyn ystyried benthyca er mwyn gwireddu’r prosiect penodol yma, sef i brynu cyn–dai cymdeithasol a thai preifat er mwyn eu gosod ar rent fforddiadwy, i bobl leol.

%d bloggers like this: