04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun uchelgeisiol gwerth £300 miliwn i adeiladu dros 2000 o dai ychwanegol

MAE darparu tai fforddiadwy o safon yn flaenoriaeth allweddol Gyngor Sir Gaerfyrddin, sy’n buddsoddi dros £300 miliwn i gefnogi’r gwaith o godi mwy na 2,000 o dai ychwanegol ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf. Mae 119 o dai cyngor newydd wedi eu adeiladu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai hefyd yn helpu i sicrhau twf yn yr economi leol ac adfywio cymunedau drwy greu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau y mae mawr eu hangen yn y diwydiant adeiladu.

Y llynedd, adeiladodd y Cyngor wyth o dai pâr dwy ystafell wely newydd ym Maespiode yn Llandybïe, a newid hen gartref preswyl Hafan Croeso yng Nglanaman yn ddau fflat hunangynhwysol, a llety a rennir i bump o bobl.

Bydd pedwar datblygiad tai newydd arall a chyfanswm o 106 o dai newydd yn cael eu cwblhau dros yr wythnosau nesaf – buddsoddiad o £223 miliwn, a megis dechrau rhaglen adeiladu tai fforddiadwy na welwyd mo’i thebyg ers y 1970au.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Y cyntaf i gael ei gwblhau ac i fynd ar y gofrestr tai yw safle ac iddo 14 o dai yn Garreglwyd, Pen-bre. Mae yno gymysgedd o eiddo dwy a phedair ystafell wely, a chafodd y tai eu dylunio gan dîm dylunio eiddo mewnol y Cyngor. Dyfarnwyd y contract drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF) i’r cwmni adeiladu lleol TRJ Ltd. Mae hefyd yn cynnwys pont newydd dros yr afon i gysylltu’r safle â’r llwybr beicio.

Bydd y cam cyntaf o bedwar o dai newydd ar gael yn fuan i denantiaid y cyngor eu rhentu ar dir ger Dylan yn y Bryn, Llanelli. Bydd y 32 o dai eraill yn cael eu rhyddhau fesul cam dros y ddau fis nesaf. Mae’r datblygiad, a gynlluniwyd unwaith eto gan dîm dylunio eiddo mewnol y Cyngor, yn cynnwys 22o dai dwy ystafell wely, pedwar byngalo dwy ystafell wely, a chwe thŷ pedair ystafell wely. Hefyd mae’n cynnwys ardal chwarae newydd i blant, a ariannwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli.

Bydd datblygiad o 32 o dai yn cael ei gwblhau yn Nheras Glanmor ym Mhorth Tywyn erbyn diwedd mis Mawrth, ynghyd â 28 o dai eraill ar safle yng Ngwynfryn yn Rhydaman, wedi’u hadeiladu gan y contractwr lleol Morganstone drwy’r SWWRCF.

Mae gan yr holl dai newydd geginau ac ystafelloedd ymolchi modern, lefelau eithriadol o uchel o insiwleiddio i sicrhau y collir cyn lleied o wres ag sy’n bosibl, technoleg adnewyddadwy gan gynnwys paneli solar, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a storfa fatris fel bo biliau ynni tenantiaid yn is.

Mae’r datblygiadau yn Garreglwyd, Dylan a Gwynfryn i gyd wedi cael eu hariannu’n rhannol drwy Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r safle yn Nheras Glanmor wedi derbyn cyllid drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru ac mae’r tai wedi’u dylunio gydag ystod ehangach o fesurau a fydd yn lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon, gan gefnogi ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a bod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

Mae’r 32 o dai, a godwyd gan TRJ Ltd, i gyd wedi’u hadeiladu gyda fframiau pren a phaneli pren allanol, sy’n golygu bod ôl troed carbon yr adeiladau hyn yn fach iawn. Maent hefyd wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus, sy’n mabwysiadu dull adeilad cyfan i ddarparu cysur mawr i’r sawl fydd yn byw yno, gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni ar gyfer gwresogi ac oeri. Mae paneli haul wedi’u gosod ar bob to, sydd wedi’u cysylltu â batris ac a fydd, yn yr haf, yn gallu cyflenwi trydan oddi ar y grid 24 awr y dydd. Mae gan bob eiddo bwynt gwefru cerbydau trydan, mae’r holl oleuadau’n LED ac mae ganddynt MVHR (system adfer gwres awyru mecanyddol) felly maent yn effeithlon iawn o ran ynni.

Fel rhan o’r datblygiad, mae maes parcio cyhoeddus newydd wedi’i greu yn Nheras Glanmor a mannau parcio ychwanegol yn Nheras Arian, yn ogystal â man agored cyhoeddus gyda gwaith tirweddu a meinciau, sydd â llwybr troed i’w gysylltu â’r datblygiad newydd.

Mae pob un o’r pedwar datblygiad wedi creu wyth swydd newydd i bobl a oedd yn ddi-waith, yn ogystal â phedair prentisiaeth ac 19 o gyfleoedd profiad gwaith.

Heddiw (dydd Llun, Chwefror 14) cafodd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor, ac mae’n llywio cynlluniau’r dyfodol ar gyfer tai yn Sir Gaerfyrddin am y pum mlynedd nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant cynllun cyflawni tai fforddiadwy presennol y Cyngor.

Bydd hefyd yn cefnogi twf economaidd drwy fuddsoddi dros £300 miliwn mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a lleoedd yn uniongyrchol fel rhan o Gynllun Adfer Economaidd COVID-19 y Cyngor.

Cafwyd mwy na 2,500 o ymatebion i ymgynghoriad a gynhaliwyd yr haf diwethaf, a defnyddiwyd y safbwyntiau hyn i helpu i ddatblygu’r cynllun.
Yn ogystal ag adeiladu rhagor o dai Cyngor, mae’r cynllun yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai i ddarparu mwy o gynlluniau adeiladu newydd, prynu stoc sy’n addas i’n hanghenion, gweithio gyda datblygwyr i sicrhau bod amrywiaeth o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiadau preifat ac ailddefnyddio tai sydd wedi bod yn wag.

Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda landlordiaid i’w hannog i osod eu heiddo am bris fforddiadwy, ac i sicrhau bod rhagor o dai o’r sector preifat yn cael eu rheoli gan ei asiantaeth gosod tai cymdeithasol fewnol – Gosod Syml.

Dywedodd y Cyng. Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Dai:

Drwy’r cynllun cyflawni pum mlynedd newydd hwn, bydd tai Cyngor yn cael eu datblygu ar raddfa na welwyd ers y 1970au, dair cenhedlaeth yn ôl.
Mae’r cynllun yn gyffrous, yn feiddgar, ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu dros 2,000 o dai yn ein cymunedau. Rydym ni eisoes wedi rhagori ar y targedau yn ein cynllun pum mlynedd cyntaf, a gynhyrchwyd yn 2016. Mae 1,000 o dai wedi’u codi’n rhan o’r cynllun hwnnw, a hynny bron i flwyddyn yn gynnar. Mae’r cynllun hwn hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.

Bydd y tai fydd yn cael eu darparu drwy’r cynllun hwn i’w rhentu a’u gwerthu ym mhob rhan o’n sir, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfol. Byddwn yn darparu cartrefi ar gyfer aelwydydd o bob math, gan gynnwys teuluoedd, pobl hŷn, pobl sengl, cyplau ac aelwydydd ag anghenion arbenigol. Bydd ein datblygiadau’n cynnwys cymysgedd o fathau o eiddo, gan gynnwys fflatiau, byngalos, a chartrefi teuluol mawr a bach.

Ond nid adeiladu tai yn unig sy’n bwysig fan hyn – bydd dyluniad y tai o fath lle mae eu hansawdd a’u gwedd yn unigryw, a byddan nhw’n gynaliadwy o ran eu hôl troed carbon. Bydd ein tai newydd yn creu cymunedau gydag ymdeimlad gwirioneddol o le y bydd pobl o bob oed yn falch o allu eu galw’n gartref iddyn nhw.
A bydd y buddsoddiad rydym ni’n ei wneud yn cael effaith enfawr ar ysgogi’r economi, creu swyddi i bobl leol, a chefnogi adferiad y sir ar ôl pandemig Covid 19.”

Yn 2015, y Cyngor oedd y cyntaf yng Nghymru i atal yr Hawl i Brynu er mwyn cadw ei stoc dai ostyngol, ac adeiladodd nifer o fyngalos – y tai awdurdod lleol cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers y 1980au.

Flwyddyn yn ddiweddarach yn 2016, lansiodd ei gynllun tai fforddiadwy er mwyn darparu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir erbyn 2021 drwy adeiladu tai newydd, prynu o’r farchnad ac addasu adeiladau gwag – cwblhawyd y cynllun hwn flwyddyn yn gynt na’r bwriad.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Emlyn Dole, fod y cynllun yn cydnabod rôl datblygu tai a buddsoddi o ran ysgogi twf economaidd cyffredinol y sir – sydd bellach hyd yn oed yn fwy pwysig wrth i ni adfer yn sgil effeithiau economaidd pandemig COVID-19.

Rydym ni wedi gosod nodau a chamau clir ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a fydd yn cefnogi adferiad economi’r sir, ac mae cynyddu’r cyflenwad tai yn cael ei gydnabod yn y cynllun fel cam allweddol i adferiad a thwf economaidd.

Mae’r cynllun hwn yn nodi ein blaenoriaethau adfywio tai ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan ysgogi twf economaidd a helpu ein heconomi a’n cymunedau i ddod yn gryfach nag erioed o’r blaen.

Byddwn ni’n sicrhau ein bod yn darparu’r tai iawn yn y mannau iawn, ac mae hyn yn cynnwys darparu tai fforddiadwy i bobl ifanc a phobl oedran gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol, gan eu helpu i aros yn y sir, cynyddu nifer yr ymwelwyr yn ein trefi, a diogelu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant mewn ardaloedd gwledig.

Mae’n cefnogi datblygiad ein safleoedd adfywio strategol ledled y sir drwy ddarparu mwy o gartrefi i’w rhentu a’u gwerthu, megis Pentre Awel sydd werth miliynau o bunnoedd, a fydd yn creu llety byw â chymorth deiliadaeth gymysg i bobl hŷn gyda chymorth a gofal; a phrosiect Trawsnewid Tyisha, a fydd yn darparu tai modern deiliadaeth gymysg newydd yn y gymuned.
Rydym ni’n buddsoddi mwy na £300 miliwn – bydd hyn yn cefnogi busnesau lleol a’r gadwyn gyflenwi, yn creu ac yn diogelu swyddi, ac yn helpu i greu swyddi newydd yn lle’r rhai a gollwyd.”

Dywedodd y Cyng. Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros weithredu er budd yr hinsawdd, fod adeiladu cartrefi newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn rhan bwysig o ymdrechion y Cyngor i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae datblygu tai newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, gyda’r dechnoleg adnewyddadwy ddiweddaraf, yn helpu i gefnogi targedau carbon sero-net y Cyngor a’r economi gylchol.

Rydym ni hefyd yn cefnogi ein tenantiaid i fyw’n fwy cynaliadwy, ac mae hynny’n rhan fawr o’n hagenda carbon sero-net. Yn ogystal â’u helpu i fyw mewn cartrefi sy’n gydnaws â’r amgylchedd, rydym yn gwneud eu cartrefi’n gynhesach ac yn fwy cyfforddus, ac yn rhatach i’w rhedeg drwy leihau eu defnydd o ynni ac o ganlyniad eu biliau.

Mae angen i bawb wneud ymdrech a gwneud beth gallan nhw i leihau eu hôl troed carbon. Does dim ots pa mor fach yw’r camau hynny, mae pob dim yn help, a dyma pam cafodd Prosiect Sero Sir Gâr ei lansio gennym ni ym mis Tachwedd.”

Mae’r Cyngor yn plannu coeden yng ngardd pob tŷ mae’n ei adeiladu i wneud iawn am allyriadau carbon, fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Eglurodd y Cyng. Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, pa mor bwysig oedd hi fod y Cyngor yn gallu caffael contractwyr profiadol a chymwys iawn ar gyfer ei ddatblygiadau tai newydd drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF).

Dywedodd y Cyng. Evans:

“Mae’r fframwaith yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran awdurdodau lleol rhanbarthol De-orllewin Cymru (Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe) ac mae’n darparu ateb a llwyfan caffael cystadleuol i waith adeiladu’r sector cyhoeddus.
Dyfernir ein holl gontractau ar gyfer ein datblygiadau tai newydd drwy’r fframwaith ac mae nifer o fanteision yn perthyn i hyn, a hynny i’r Cyngor yn ogystal â’r contractwyr eu hunain.

Mae nifer o gontractwyr lleol wedi cael lle ar y fframwaith, ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau cynifer â phosib o fanteision cymunedol ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru, gan gynnwys creu swyddi i bobl leol, cyfleoedd hyfforddi, a phrentisiaethau yn y diwydiant adeiladu.
Rwy’n hynod falch fod y datblygiadau tai newydd hyn wedi creu swyddi newydd i bobl a oedd yn ddi-waith, ac wedi darparu prentisiaethau i’n pobl ifanc.”

%d bloggers like this: