04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dim tystiolaeth o waredu teiars yn gyfreithlon | No proof of disposing tyres legally

MAE dyn busnes o Lanelli yn gorfod talu £800 am fethu â darparu tystiolaeth o waredu teiars.

Cyfaddefodd Stephen Griffiths yn Llys Ynadon Llanelli ei fod wedi methu â phrofi ei fod wedi gwaredu teiars yn gyfreithlon o garej Llanelli Tyres.

Mewn achos a ddygwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, clywodd y llys fod swyddogion gorfodi wedi ymweld â’r eiddo ym mis Chwefror y llynedd a’u bod wedi gofyn i Griffiths gyflwyno copïau o drosglwyddiadau gwastraff yn ymwneud â theiars am y 12 mis diwethaf. Honnodd Griffiths fod y teiars wedi cael eu casglu gan gludydd gwastraff trwyddedig.

Rhoddodd y swyddogion saith diwrnod i Griffiths gyflwyno dogfennau yn ymwneud â gwaredu teiars gwastraff, ond anwybyddwyd hyn.

Ymwelwyd ag ef ddwywaith ar ôl hynny ac ar y trydydd achlysur dim ond dogfennau â dyddiadau y tu allan i’r rhai y gofynnwyd amdanynt a gyflwynwyd ganddo. Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddo ond methodd â thalu, er gwaethaf anfon llythyr atgoffa i’r eiddo.

Wrth liniaru, honnodd Griffiths fod rhywun wedi torri i mewn i’w dŷ, a bod yr effaith ar ei fusnes a’r ffaith ei fod yn dad sengl yn golygu nad oedd yn gallu talu. Ymddiheurodd.

Cafodd ddirwy o £300 a chafodd orchymyn i dalu £492 o gostau a £32 o ordal dioddefwr.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Orfodaeth: “Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn sy’n digwydd pan fydd rhywun yn anwybyddu Hysbysiad Cosb Benodedig ac mae wedi bod yn gostus iawn i’r unigolyn hwn. Does dim pwynt i chi anwybyddu’r broblem gan y byddwn yn eich dal. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu trwy gludydd gwastraff trwyddedig os oes angen, ac mae’n hollbwysig eich bod yn cadw unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â gwaredu gwastraff. Mae rheolau ar waith i sicrhau bod yr eitemau hyn yn cael eu gwaredu’n ddiogel yn unol â’r gyfraith, ac nad ydynt yn cael eu gadael na’u tipio’n anghyfreithlon.”

Failing to provide evidence for disposing of tyres has cost one Llanelli businessman over £800.

Stephen Griffiths admitted at Llanelli Magistrates Court of not being able to prove he disposed of tyres legally from Llanelli Tyres garage.

In a case brought by Carmarthenshire County Council, the court heard that in February last year, enforcement officers visited the property and asked Griffiths to produce copies of waste transfers relating to tyres for the last 12 months. Griffiths claimed the tyres were collected by a licensed waste carrier.

Officers gave Griffiths seven days to produce documents relating to the waste tyres disposal, but this was ignored.

He was visited twice further and on the third occasion could only produce documents outside of the dates requested. He was then issued with a Fixed Penalty Notice which he failed to pay despite a reminder letter being sent to the premises.

In mitigation, Griffiths claimed he had suffered a house burglary, and that being a single dad and his business was affected he was unable to pay. He apologised.

He was fined £300, ordered to pay £492 costs and £32 victim surcharge.

The council’s executive board member for enforcement, Cllr Philip Hughes said: “This a prime example of what happens when you ignore a Fixed Penalty Notice and it has proved to be very costly for this person. There is no point in burying your head in the sand because we will catch up with you. It is your responsibility to ensure your waste is disposed of through a licenced waste carrier if required, and just as vital to keep any documentation relating to that waste disposal. Rules are in place to ensure that these kind of items are disposed of safely, in accordance with the law and do not end up being dumped or fly tipped.”

 

 

%d bloggers like this: