04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dylai Gweithwyr Gofal fod “ar yr un telerau” medd Rhun ap Iorwerth

MEWN ymateb i’r cyhoeddiad yn rhoddir codiad cyflog o 2.8% i feddygon a deintyddion yng Nghymru Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS wedi dweud:

“Rwy’n falch bod hwn yn setliad cyflog gweddus i feddygon, deintyddion ac eraill yn y GIG sydd wedi rhoi cymaint yn ystod y pandemig hwn. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru am weld pawb ar draws y sector iechyd a gofal yn cael cydnabyddiaeth briodol am eu hymroddiad a’u gofal, ac mae hynny’n cynnwys rhoi gweithwyr gofal ar yr un telerau â staff iechyd – a hynny mewn un gwasanaeth iechyd a gofal integredig i Gymru.”

%d bloggers like this: