04/15/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE mwy o gartrefi a busnesau i elwa o gyflwyno band eang cyflym iawn Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Openreach, meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth heddiw. (Gorffennaf 21)

Mae mwyafrif helaeth y cartrefi a’r busnesau yng Nghymru – 95 y cant – eisoes wedi cael mynediad at fand eang cyflym iawn, yn dilyn cwblhau y cynllun Cyflymu Cymru.

Fel rhan o becyn o fesurau i gyrraedd yr adeiladau sy’n weddill, mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb gydag Openreach fydd bellach yn cynyddu o 26,000 o adeiladau i 39,000.  Bydd yr estyniad yn cael ei ariannu gan £30 miliwn o Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, gyda buddsoddiad ychwanegol gan Openreach.Y bwriad yw cwblhau’r prosiect erbyn Mehefin 2022.

Bydd ymestyn y prosiect yn targedu ardaloedd yr awdurdod lleol sydd â llai na 90 y cant o fynediad at fand eang cyflym iawn.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydbwysedd gwell o ran band eang cyflym iawn ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn rhoi mynediad at y band eang cyflymaf, mwyaf dibynadwy sydd ar gael i fwy o gartrefi a busnesau.

Bydd gan pob adeilad fand eang cyflym iawn Cysylltiad Ffibr i’r Adeilad.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae Covid-19 wedi dangos yn amlwg bwysigrwydd band eang cyflym a dibynadwy.  Er bod gan fwyafrif yr adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, diolch i ymryrraeth flaenorol drwy gynllun Cyflymu Cymru, rydym yn gwybod bod yn rhaid inni gyrraedd yr adeiladau olaf sydd heb fynediad.

“Mae’r cynllun ffeibr yn rhan o becyn o fesurau sy’n gwneud hynny.  Bydd y 39,000 o adeiladau sydd i elwa o hyn yn derbyn ffibr sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol i’r adeiladau sy’n cynnig y cyflymder band eang cyflymaf posibl.  Bydd yr adeiladau ychwanegol yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn yr ardaloedd ble y mae llai na 90 y cant yn derbyn band eang, fel y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl.

“Nid y cynllun ffibr yw’r ateb i bob adeilad sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn, a dyna pam fod gennym nifer o gynlluniau eraill gan gynnwys y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y Gronfa Band Eang Lleol a chynllun ychwanegu Cymru at gynllun Talebau Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU.

“Er nad yw band eang wedi’i ddatganoli, rydym yn benderfynol o weithredu ble y gallwn i wella cysylltedd ar draws pob rhan o Gymru.”

Meddai Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru “Rydyn ni’n falch iawn o allu adeiladu rhwydwaith ffibr llawn y genhedlaeth nesaf hyd yn oed ymhellach ar draws y Gymru wledig o ganlyniad i’r estyniad hwn.

“Mae cyfnod cloi y coronafeirws wedi atgoffa pawb fod cael cysylltiad band eang da yn bwysicach nag erioed i fusnesau a chartrefi – waeth ble rydych yn byw neu yn gweithio.

“Felly rydym yn falch iawn o allu adeiladu ar lwyddiant ein partneriaeth bresennol gyda Llywodraeth Cymru.  Er gwaethaf effaith y pandemig, mae ein peirianwyr sy’n weithwyr allweddol wedi parhau i adeiladu a chynnal ein rhwydwaith ledled Cymru ac eisoes wedi cysylltu mwy na 8,000 o gartrefi a busnesau gyda ffeibr llawn yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i’w heiddo – gan ddod â mynediad at y cysylltiad band eang cyflymaf a mwyaf dibynadwy yn y DU ac Ewrop.”

%d bloggers like this: