MAE’R gwellt a chytleri plastig, a chynwysyddion bwyd a diod polystyren i gael eu gwahardd yng Nghymru fel rhan o fesurau ehangach i wneud Cymru yn brif wlad ailgylchu y byd, meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw:
I nodi Diwrnod Ailgylchu Byd-eang, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfyngu ar blastigau untro, anodd i’w hailgylchu ac sy’n creu sbwriel cyffredinol, fel rhan o ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â’r broblem o lygredd plastig, a helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol.
Mae’r plastigau untro yn cynnwys:
- gwellt;
- troellwyr;
- bydiau cotwm;
- ffyn balŵn;
- platiau a chytleri;
- cynwysyddion bwyd a diod wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu a; chynnyrch wedi’i wneud o blastig oxo-bioddiraddiadwy; megis rhai mathau o fagiau siopa.
Mae hyn yn rhan o ddull ehangach, integredig o fynd i’r afael â phroblemau sy’n cael eu creu gan ormod o blastig a sbwriel mewn cymunedau.
Cynhelir ymgynghoriad o’r cynigion yn y misoedd nesaf; gyda chyfyngiadau i ddod i rym yn hanner cyntaf 2021.
Mae llygredd plastig yn cael effaith ar bob amgylchedd yng Nghymru, yn enwedig traethau ac arfordiroedd Cymru, allai achosi niwed i fywyd morol. Yn 2019 mewn astudiaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd cyfran fawr o’r sbwriel a gasglwyd yn cynnwys eitemau plastig.
Nod y mesurau newydd hyn yw rhwystro sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf, gan gadw adnoddau gwerthfawr yn y system a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi.
Mae gwahardd amrywiol blastig untro yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru at arwain y byd yn y maes hwn ac mae’n dangos sut y mae Cymru wedi arwain y ffordd.
Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Mae’r plastig untro yr ydym am eu gwahardd yn anodd i’w hailgylchu ac maent i’w cael yn aml ar draethau a moroedd o amgylch ein harfordiroedd, gan ddifetha ein gwlad a niweidio ein hamgylchedd naturiol a morol.
“Mae’n hollbwysig nad ydym yn taflu ein dyfodol i ffwrdd – a dyma pam rydyn ni’n credu y bydd y gweithredu uniongyrchol hwn yn cael effaith sylweddol ar newid ymddygiad pobl a gwneud iddyn nhw ystyried eu gwastraff pan y mae nhw’n teithio o gwmpas.
“Mae’r mesurau dwi yn eu cyhoeddi heddiw yn rhan o ystod o atebion posibl i’r broblem blastig. Dwi wedi ymrwymo i gydweithio â rhanddeiliaid i ddeall effaith y cynnig hwn, yn enwedig ar unrhyw ddinasyddion y mae’n bosibl eu bod yn dibynnu ar rai o’r eitemau rydyn ni wedi eu cynnwys, i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn. Byddwn yn lansio’r ymgynghoriad ar y cynigion yn fuan, a dwi am annog pobl Cymru i rannu eu barn gyda ni.”
Mae’r ymrwymiad hirdymor i leihau gwastraff a phlastig di-angen wedi’i amlinellu yn strategaeth yr economi gylchol, ‘Tu Hwnt i Ailgylchu’, sy’n anelu at weld Cymru ddi-wastraff erbyn 2050.
More Stories
Canolbwynt deildy newydd yn cael ei chefnogi gan Farchnad Abertawe
Parth busnes newydd ar safle hen ffatri MetalBox Castell nedd datblygu’n dda
Gallai’r cynnydd yn nhreth Cyngor Castell Nedd fod ymysg yr isaf yng Nghymru