MAE’r gwaith wedi dechrau i chwilio am gontractwyr i wneud gwaith ailadeiladu cwlfert yn Castle Drive, Cimla, Castell-nedd, a ddymchwelodd oherwydd storm o law trwm iawn ddiwedd y llynedd.
Sicrhaodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot £100,000 o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr i gynllunio rhywbeth i gymryd lle’r cwlfert hanfodol, ac mae’r gwaith hwnnw bellach wedi gorffen.
Mae’r tendr ar gyfer gwneud y gwaith adeiladu ar fin cael ei ryddhau ar ôl i ganiatâd cyllido gael ei gadarnhau, a bwriedir dechrau ar y gwaith o ailadeiladu’r cwlfert ar ddechrau mis Mai eleni.
Cafodd y £100,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio hefyd i gynllunio dargyfeirio gwasanaethau cyfleustodau hanfodol, y mae angen ei wneud er mwyn darparu lle i adeiladu cwlfert mwy o faint.
Bu’n rhaid cau’r heol yn Castle Drive i gerbydau a cherddwyr am resymau diogelwch ar ôl i’r dymchweliad ddigwydd, Cafodd y rhan o’r gefnffordd sydd i’r cyfeiriad gyda llif y dŵr ei thanseilio am fod bancyn oedd yn cynnal yr heol wedi golchi i ffwrdd dan rym y llifogydd.
Ar ôl gwneud mwy o ymchwilio, ailagorwyd rhodfa i gerddwyr i’r cyfeiriad yn erbyn llif y dŵr gan alluogi disgyblion i gael mynediad pwysig i Ysgol Fabanod Crynallt.
Cynllunnir i wneud gwaith lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth a thorri coed yn ystod y pythefnos nesaf yn dibynnu ar amodau’r tywydd ar y safle.
Cwblhawyd arolwg topograffig o’r ardal ac mae’r cyngor wedi sicrhau fod ganddynt fynediad ar i dir preifat er mwyn i’r contractwyr a benodir allu gwneud y gwaith o ailadeiladu’r cwlfert.
Yn ôl y Cynghorydd Mike Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg:
“Rydyn ni wedi gwneud cryn gynnydd wrth gywiro’r niwed a achoswyd ar noson pan oedd gwasanaethau brys ledled De Orllewin Cymru wedi’u llethu â galwadau am gymorth oherwydd llifogydd ymhobman.
“Hoffem ddiolch i breswylwyr lleol am eu hamynedd. Bu adfer y cwlfert a’r heol yn ddiogel a chadarn yn brosiect peirianneg cymhleth, ond bydd y canlyniadau’n para’n hir ac mae hynny’n bwysig, am ei bod hi’n ymddangos fod newid hinsawdd yn dod â mwy o law trwm a thywydd stormus niweidiol cynyddol yn ei sgil.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m