04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gweinidog yn cyhoeddi camau i wella amrywiaeth ym maes trafnidiaeth

LLYWODRAETH Cymru bwriadu sefydlu Gweithgor Newydd i annog rhagor o fenywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfa ym maes Trafnidiaeth.

WWrth siarad mewn digwyddiad ar Fenywod ym Maes Trafnidiaeth yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog y dylai gwasanaeth rheilffyrdd newydd Cymru, sy’n werth £5 biliwn, edrych fel y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, ac y dylai ei weithlu adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn yr 21ain Ganrif.

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd y gweithgor, yn y lle cyntaf, yn cynnal arolwg o amrywiaeth yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru. Ymhlith aelodau’r grŵp bydd cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru ac undebau’r rheilffyrdd, a bydd yr elusen, Chwarae Teg, yn rhan o’r gwaith hefyd.

Bydd y grŵp yn ystyried materion fel trefniadau goramser, diwrnodau gorffwys a gweithio’n rhan-amser, a hynny oherwydd y gallai materion o’r fath fod yn fodd i annog mwy o amrywiaeth ar y rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd y grŵp yn cyflwyno’i argymhellion i’r Gweinidog ymhen 6 mis, ac yn mynd ati wedyn i ystyried gwaith pellach ar fathau eraill o drafnidiaeth.

Yn ystod Wythnos Ryngwladol y Menywod, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu lefel uchel sy’n rhan o’i Hadolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau. Dyma rai o’r mesurau ar wella cydraddoldeb ym maes trafnidiaeth:

  • Pecyn o hyfforddiant i edrych ar rywedd ac ar nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Corff annibynnol i adolygu perfformiad a chynnal arolwg Cymru gyfan ar ddiogelwch ym maes trafnidiaeth.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:

“Pan mae menywod yn cael eu cau allan o’n gweithlu trafnidiaeth, rydyn ni’n colli talent – mae 50% o’r syniadau, yr wybodaeth a’r gallu creadigol y gallen ni fod yn eu defnyddio i wella trafnidiaeth yng Nghymru yn cael ei gau allan.

“Pan mae unigolion – oherwydd eu hil, eu hethnigrwydd, eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hanabledd – yn cael eu hatal rhag cynnig eu hunain i weithio ym maes trafnidiaeth, rydyn ni’n colli’r cyfle y gallen ni fod wedi manteisio arno i wneud penderfyniadau gwell am ddyfodol gwasanaethau trafnidiaeth hanfodol.

“Ond yn anad dim, pan fydd y pethau hyn yn digwydd, rydyn ni’n methu o ran ein dyhead i sicrhau cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a dyngarwch.

“Rhaid inni fynd i’r afael â hyn yn gyflym ac ar fyrder. Drwy fesurau fel ein Grŵp newydd ar Amrywiaeth ym Maes Trafnidiaeth – a fydd yn canolbwyntio ar y rheilffyrdd yn y lle cyntaf – a’n Hadolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau, dyna’n union rydyn ni’n ceisio’i wneud.”

Dywedodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’n bleser gennym gefnogi’r digwyddiad Menywod mewn Trafnidiaeth, a hynny fel rhan o’n hymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth o fewn ein holl weithgareddau, fel bod ein sefydliad a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cynrychioli holl gymunedau Cymru a’r Gororau.

“Rydym yn anelu at sicrhau diwylliant cynhwysol sy’n amrywiol o ran rhywedd ac sy’n cydnabod a datblygu potensial yr holl weithwyr a phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Rydym yn cydnabod y manteision a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth gymuned amrywiol o staff sy’n gwerthfawrogi ei gilydd ac sy’n ymwybodol o’u cyfraniad at gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo.”

%d bloggers like this: