MAE teuluoedd ar draws Sir Gaerfyrddin yn parhau i fwynhau gaeaf llawn gweithgareddau hwyliog a gaiff eu cynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin a bydd rhagor o bethau hwyliog i’w gwneud yn ystod hanner tymor.
Mae’r cyngor wedi sicrhau dros £360,000 o fenter Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a gynlluniwyd i annog pobl i fod yn egnïol ac i ailgysylltu â’i gilydd wrth i ni ddod allan o’r pandemig.
Hyd yn hyn, mae miloedd o bobl wedi mwynhau mynediad am ddim i bantomeimiau, cynyrchiadau theatr, sesiynau celf, gweithgarwch corfforol, chwarae meddal, a mynediad am ddim i barciau gwledig, gan gynnwys llwybr goleuadau Nadolig hynod boblogaidd ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Bydd yr hwyl yn parhau dros wyliau hanner tymor yr ysgol, gan ddechrau ddydd Llun 21 Chwefror.
Bydd Parc Gwledig Pen-bre yn cynnal sesiynau sgïo hamdden am ddim ar ei lethr sych, yn ogystal â chynnig cyfle i logi beiciau am ddim, reidiau toboggan ac ysgol goginio.
Bydd theatrau’r cyngor yn rhoi tocynnau am ddim ar gyfer detholiad o sioeau cyffrous, gan gynnwys sioe Josephine Theatre Royal Bath yn theatr y Ffwrnes Llanelli, a chynhyrchiad Opera Ieuenctid Caerfyrddin o Grease yn y Lyric.
Mae canolfannau hamdden Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau am ddim gan gynnwys clwb gwyliau, chwarae meddal, pêl-rwyd mini, sesiynau pêl-droed a hoci, partïon â thema, offer gwynt mewn pwll nofio a mwy.
Nod menter Gaeaf Llawn Lles, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn a pherson ifanc gan helpu teuluoedd i ailymgysylltu â chymdeithas, ailgysylltu â ffrindiau, ac ailddarganfod eu hoff hobïau wrth i gyfyngiadau COVID ddod i ben yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sef yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Rydym eisoes wedi croesawu miloedd o bobl i’n gweithgareddau am ddim dros y gaeaf ac yn edrych ymlaen at weld mwy o deuluoedd dros wythnos hanner tymor.
“Mae cymaint yn digwydd yn ein parciau gwledig, theatrau, canolfannau hamdden a chymunedau – mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.”
Mae mynediad i weithgareddau am ddim y fenter Gaeaf Llawn Lles ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i www.parcgwledigpenbre.cymru/, www.actif.cymru/ a www.theatrausirgar.co.uk neu gallwch chwilio am ddigwyddiadau lleol ar y cyfryngau cymdeithasol.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m