MAE Cyngor Powys yn ymgynghori ar Wybodaeth a Threfniadau Derbyn 2023/24 ar gyfer Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â Chod Derbyniadau Llywodraeth Cymru.
Mae hefyd yn ymgynghori ar fapiau dalgylchoedd sy’n nodi lle mae ysgol gynradd ac uwchradd agosaf dysgwr. Bydd y cyngor yn defnyddio’r mapiau hyn wrth ystyried ceisiadau dan y polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol.
Bydd y cyfnod ymgynghori ar y trefniadau derbyn yn cau dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022 a bydd y cyfnod ymgynghori ar fapiau’r dalgylchoedd yn cau dydd Llun 14 Mawrth 2022.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau hyn, ewch i www.powys.gov.uk a chwilio am Ymgynghoriad Cyhoeddus ar drefniadau derbyn mapiau dalgylchoedd ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo:
“Mae’r llyfryn Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn yn ddogfen bwysig i rieni pan ddaw’r amser iddynt wneud cais am le i’w plentyn un ai mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd.
“Mae’r llyfryn yn diffinio sut bydd y cyngor yn rhoi ei drefniadau derbyn ar waith wrth ystyried ceisiadau. Er bod gan rieni’r hawl i ddatgan dewis o ysgol, bydd rhaid ystyried mapiau’r dalgylchoedd os yw’r ysgol honno’n llawn.
“Mae’n bwysig cael barn pobl sy’n byw yn y sir ar drefniadau derbyn 2023/24 a’r mapiau er mwyn gallu ystyried y sylwadau cyn cadarnhau’r dogfennau hyn.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m