09/08/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hwb i ganol trefi Rhydaman a Chaerfyrddin

GOFYNNIR i bobl leisio eu barn am gyflwyno dau Orchymyn Datblygu Lleol (LDOs) ar gyfer canol trefi Caerfyrddin a Rhydaman. Mae Gorchymyn Datblygu Lleol eisoes ar waith yn llwyddiannus yng nghanol tref Llanelli.

Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin y byddai gorchmynion newydd yn helpu i lunio ac arwain datblygiad trwy’r heriau a wynebir o ganlyniad i Covid-19.

Bwriad mabwysiadu’r gorchmynion yw helpu i ddenu buddsoddiad i’r ardaloedd, a chefnogi busnesau presennol trwy roi sicrwydd i ddatblygwyr a lleihau’r amser a’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud cais cynllunio.

Mae ail-ddefnyddio siopau gwag unwaith yn rhagor yng Nghanol Trefi Caerfyrddin a Rhydaman yn un o’r blaenoriaethau allweddol i’r Cyngor yn ogystal â mynd i’r afael â’r effaith a’r goblygiadau sy’n deillio o Covid-19.

Gall pobl leisio eu barn ar-lein trwy ymweld â gwefan y Cyngor tan hanner dydd ddydd Gwener, 26 Chwefror.

I gael rhagor o wybodaeth, fedr pobl gysylltu â’r Adain Blaen-gynllunio ar 01267 228818 neu drwy anfon e-bost at blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Gynllunio:

“Er bod y Gorchymyn Datblygu Lleol Mabwysiedig yn gosod cyfeiriad polisi cryf i fanwerthu yn Sir Gaerfyrddin, mae’r heriau sy’n wynebu canolfannau manwerthu o ganlyniad i Covid-19 yn ei gwneud yn ofynnol i’r broses gynllunio fabwysiadu dull mwy hyblyg ac ymatebol er mwyn sicrhau bod canol ein trefi yn hyfyw ac yn fywiog. Mae’n hanfodol fod canol tref Caerfyrddin a Rhydaman yn gallu ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau sy’n deillio o Covid-19 a bydd mabwysiadu’r Gorchmynion Datblygu Lleol yn symleiddio’r broses gynllunio ac yn ennyn buddsoddiad newydd a pharhaus yng nghanol y trefi.”

 

%d bloggers like this: