03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Noson arbennig i gofio gwaith awdur llyfrau plant mwyaf adnabyddus Cymru T. Llew Jones.

AR NOS Iau, 06 Hydref am 7:30yh, cynhelir Noson Goffa T. Llew Jones yn
Llyfrgell y Dref Aberystwyth, Canolfan Alun R Edwards.

Y trydydd noson goffa swyddogol i gael ei drefnu gan y Llyfrgell, bydd
noson eleni yn cynnwys araith gan y siaradwr gwadd, Jon M O Jones. Teitl
y sgwrs yw ‘Bwbw o ben Foel Gilie: atgofion am gymdeithas wledig y
Cilie’. Bydd hefyd perfformiad gan Barti Camddwr.

Cyn dod yn awdur llawn amser, roedd T. Llew Jones yn athro ysgol gynradd
yng Ngheredigion am 35 o flynyddoedd, a bu farw yn 2009. Cyhoeddodd dros
50 o lyfrau ar gyfer oedolion a phlant. Cafodd rhai ohonynt eu haddasu
ar gyfer y teledu ac fe’u dangoswyd ledled y byd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb
am Wasanaethau Llyfrgelloedd:”Pob blwyddyn, bydd nifer o ysgolion ar
draws y sir yn dathlu Diwrnod T. Llew Jones ar 11 Hydref, a gwelir
cenedlaethau newydd yn dod i adnabod Twm Sion Cati, Barti Ddu, trigolion
Plasywernen ac yn gweld y Tân ar y Comin yn cynnau o’u blaenau. Bydd y
noson goffa ar yr 6ed o Hydref yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion i
gofio a dathlu cyfraniad T. Llew Jones.”

Mae’r noson Gymraeg hon am ddim, ond mae angen archebu lle. I archebu
eich lle neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Llyfrgell Aberystwyth ar
01970 633717 neu e-bostiwch llyfrgell@ceredigion.gov.uk.

%d bloggers like this: