MAE Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â dileu’r cymhwyster Cymraeg ail iaith.
Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl Ifanc, ynghyd a’r Gymraeg:
“Mae’r penderfyniad yma yn groes i alwadau ymgyrchwyr a’r dystiolaeth glir ers blynyddoedd lawr bod y system bresennol ddim yn caniatau mynediad cydradd i bawb i’r Gymraeg. Mae’n codi cwestiynau mawr am rôl a diben Cymwysterau Cymru fel corff. Y perygl mawr yw mai yr hyn sy’n digwydd yw ail-frandio Cymraeg ail iaith, yn hytrach na’r cam mawr ymlaen sydd wir ei angen er mwyn cyrraedd targedau uchelgeisiol y Llywodraeth o greu miliwn, a mwy, o siaradwyr yr iaith.
“Mae bodolaeth y cymhwyster ail iaith a chreu un continwwm Iaith yn creu peryglon ynddo ei hun o ran diffyg dilyniant rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, yn enwedig mewn nifer o siroedd yng ngorllewin y wlad.
“Rydym yn awyddus i gydweithio ar draws y pleidiau er budd pobl Cymru a’u cymunedau, ond mae penderfyniad fel hyn gan gorff anetholedig yn tanseilio’r ymdrechion hynny. Er bod y penderfyniadau gan Gymwysterau Cymru yn deillio o broses a gychwynwyd cyn y Cytundeb Cydweithio, mae’n amlwg bydd rhaid newid y trywydd os oes modd i ni ddod i gytundeb trawsbleidiol ar gynnwys Bil Addysg Gymraeg.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m