04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plaid Cymru yn galw am fwy o atebolrwydd i’r sector gofal lefel Llywodraeth Cymru

DYLID cael “llais” penodol ar gyfer y sector gofal o fewn Llywodraeth Cymru, meddai Plaid Cymru. Cefnogir yr alwad hon gan bennaeth cartref gofal a gollodd 21 o drigolion i COVID-19, ac sy’n dweud bod strwythur y gwasanaeth gofal yn “amlwg o aneffeithiol, astrus a gwastraffus.”

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Dyfodol, Delyth Jewell AS, fod anghenion y sector gofal wedi cael eu “hanwybyddu” am lawer rhy hir. Galwodd Ms Jewell am roi llais i’r sector, gyda mwy o gyfrifoldeb gweinidogol am ofal cymdeithasol.

Ategir y galwadau hyn gan Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, sydd wedi galw am gydraddoldeb rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan nodi bod y “gost ofnadwy” i gartrefi gofal yng Nghymru wedi cael cyhoeddusrwydd eang yn ystod pandemig Covid-19: o argaeledd PPE ar gyfer gweithwyr gofal yn y cyfnodau cynnar, i gartrefi gofal yn gorfod derbyn cleifion heb eu profi o’r ysbyty. Roedd y canlyniad, meddai Ms Jewell, “yn ddim byd ond sgandal cenedlaethol.”

Dywedodd Gweinidog yr wrthblaid mai “atebolrwydd” ar gyfer y sector gofal yw lle mae’r broblem yn dechrau. Gyda rhai cartrefi gofal mewn dwylo preifat, ac eraill dan reolaeth yr awdurdodau lleol, mae Ms Jewell yn dweud bod llawer o reolwyr cartrefi gofal wedi dweud wrthi “doedden nhw ddim yn siŵr at bwy i droi am gyngor.”

O ganlyniad, nid oes gan reolwyr cartrefi gofal ffordd ffurfiol i mewn i broses gwneud penderfyniadau’r Llywodraeth ac – yn hollbwysig – mae hyn yn golygu bod atebolrwydd ar gyfer y sector yn parhau i fod yn anghyson.

Mae Plaid Cymru yn galw am gadarnhau atebolrwydd dros y sector drwy swyddog penodedig yn y Llywodraeth sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod llais y sector gofal yn cael ei glywed, ac am fwy o atebolrwydd gwleidyddol. O dan y system bresennol, Dirprwy Weinidog yw’r person sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol.

Meddai Delyth Jewell AS,Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Dyfodol:

“Yn ystod y pandemig, dywedodd nifer o reolwyr cartrefi gofal wrthyf eu bod yn ansicr i bwy i droi am gyngor ar brofi neu PPE a bod anghenion y cartref gofal wedi cael eu hesgeuluso. Daeth yr enghraifft fwyaf ofnadwy o’r esgeulustod hwn pan ryddhawyd mwy na 1,000 o drigolion asymptomatig o’r ysbyty heb eu profi.

“Ni wrandawyd ar leisiau preswylwyr a rheolwyr cartrefi gofal, a thalodd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas y pris.

“Yn y tymor hir, mae Plaid Cymru wedi gosod allan ei chynlluniau i uno iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn mynd i’r afael yn radical â’r problemau cronig mewn gofal cymdeithasol. Yn y cyfamser, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud rhywbeth i sicrhau bod llais y sector gofal yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir o fewn y Llywodraeth ei hun. Bydd creu swyddog penodedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol am y sector gofal yn gosod atebolrwydd wrth wraidd y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae gofal cymdeithasol yn rhan o gylch gwaith Dirprwy Weinidog – rhaid cael mwy o atebolrwydd gwleidyddol ar gyfer y sector pwysig hwn.

“Ni ddylai’r sgandal a welir yn ein cartrefi gofal fyth ddigwydd eto.”

Meddai Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru:

“Mae’r pandemig hwn wedi dangos yn glir fod y sector gofal wedi cael ei esgeuluso am ormod o amser. Dw i am roi cydraddoldeb i’r ddau sector hynny – iechyd a gofal – ac yn wir mae Plaid Cymru eisiau sefydlu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol yn Nghymru.

“Ond dylai’r Llywodraeth geisio llenwi’r bwlch sy’n bodoli lle nad yw gofal yn cael y llais sydd ei angen arno wrth galon gweinyddiaeth y Llywodraeth. Mae Prif Weithredwr y GIG ac y phrif swyddog meddygol wedi bod yn ffigurau amlwg dros y misoedd diwethaf. Mae arnom angen rhywun o statws cyfatebol sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r sector gofal yn mynd yn angof mewn unrhyw ffordd eto.”

Meddai Brian Rosenberg, Cadeirydd Tregwilym Lodge Ltd: 

“Mae’n ffaith bod y strwythur a’r system bresennol o ddarparu’r gyllideb gofal a darparu gwasanaethau gofal i bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned wedi’u torri’n gyfan gwbl ers amser hir.

“Mae Covid-19 wedi amlygu methiannau llwyr y strwythurau  trafferthus ac anhylaw sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae methiannau yn y broses o reoli PPE, newidiadau mewn Cyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phrofion ysbyty, derbyniadau a gollyngiadau o ysbytai a pholisau eraill wedi arwain at lawer o farwolaethau diangen – gyda 21 yn Tregwilym Lodge yn unig!

“Er ei bod yn amlwg bod buddsoddi mewn gweithwyr sector cyhoeddus i’w groesawu, mae’n siom enfawr bod y Llywodraeth yn parhau i anwybyddu gofal cymdeithasol. Mae’r cyfyngiadau parhaus ar gyllid gofal cymdeithasol yn golygu ei fod yn parhau i fod yn sector gyda cyflog isel. Fel sector sy’n gofalu am drigolion sydd â lefelau uchel o gymhlethdod a aciwtedd mae angen llwybr gyrfaol cryf a llais ar y lefel uchaf.

“Gallai unrhyw un sy’n edrych ar y strwythur hwn weld pa mor aneffeithiol, cymhleth a gwastraffus yw e.”

%d bloggers like this: