04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Wrecsam bellach yn seithfed ddinas Cymru

MAE Wrecsam yn ddinas ers dydd Iau 1 Medi ar ôl ennill statws mawreddog trwy gystadleuaeth a oedd yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi.

Rhoddwyd yr anrhydedd yn gynharach eleni ac mae’r Breinlythyr swyddogol yn cadarnhau bod y statws dinesig yn dod i rym o 1 Medi 2022 ymlaen.

Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal mis o ddigwyddiadau ar benwythnosau drwy gydol mis Medi i ddathlu Wrecsam a’i llwyddiant.

Wrecsam bellach yw’r seithfed ddinas swyddogol yng Nghymru, gan ymuno â Chaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Bangor, Tyddewi a Llanelwy. Cynhaliwyd y gystadleuaeth anrhydedd dinesig diwethaf 10 mlynedd yn ôl i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, pan gafodd Llanelwy ei anrhydeddu â’r statws.

Dywedodd Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Llongyfarchiadau i Wrecsam ar ennill statws dinesig. Mae gan y ddinas a’r ardal gyfagos eisoes gymaint i’w gynnig – mae’n gartref i’r bragdy enwog “Wrexham Lager”, i Draphont Ddŵr Pontcysyllte ac i un o’r clybiau pêl-droed hynaf yn y byd.

“Mae gan Wrecsam llawer i fod yn falch ohono, ac mae ei dyfodol yr un mor gyffrous. Rwy’n gobeithio y bydd dinas Wrecsam yn parhau i ffynnu a thyfu.”

Meddai y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Mae gennym ni gymaint i’w ddathlu yn Wrecsam. Mae gennym ni Safle Treftadaeth y Byd anhygoel, clwb pêl-droed â pherchnogion arbennig, a diwydiant celfyddydau a diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’n lluoedd arfog, ein busnesau o’r radd flaenaf a’n ffrindiau o bob cwr o’r byd.

“Ond ein hased mwyaf yw ein cymunedau, ac angerdd, cymeriad a chreadigrwydd anhygoel y bobl sy’n byw yma sy’n gwneud Wrecsam yn le mor arbennig.

“Mae statws dinesig yn llwyddiant ysgubol ac mae’n adlewyrchu’r hyder a’r uchelgeisiau sydd gennym yn Wrecsam. Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y cais uchelgeisiol am statws dinesig, gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd, cynghorwyr etholedig, a’r holl fusnesau yn Wrecsam a thu hwnt.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Ei Mawrhydi y Frenhines am roi statws dinesig i Wrecsam. Rydyn ni wedi cael ein llongyfarch gan gefnogwyr a ffrindiau o bob cwr o’r byd, ac mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol dros ben.”

 

%d bloggers like this: