05/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymraeg

DAETH Gweinidogion Cyllid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd yng Nghaerdydd heddiw, a’r prif bwnc trafod oedd sut i gefnogi pobl a busnesau wrth i filiau barhau i godi. Mae prisiau bwyd, tanwydd, ynni, dillad, costau teithio a rhenti yn parhau i gynyddu wrth i chwyddiant godi. Ac mae OFGEM wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd cynnydd pellach o tua £800 y flwyddyn mewn biliau ynni ym mis Hydref. Mae pryderon cynyddol am effaith yr argyfwng ar iechyd a lles unigolion. Bu Gweinidogion Cyllid y DU yn trafod beth arall y gellir ei wneud i helpu pobl i ymdopi â'r argyfwng, a hynny mewn mewn cyd-bwyllgor sy'n...

YN dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages i gefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto. Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle gwerth £1,000 i bobl ifanc rhwng 11-25 fedru ymgeisio amdano, i’w helpu gyda’u dyheadau yn y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy'n banel o bobl ifanc o bob rhan o Geredigion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Mercher, 10 Awst 2022. Cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio. Dywedodd...